Isaiah 66

Barn a gobaith

1Dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud:

“Y nefoedd ydy fy ngorsedd i,
a'r ddaear ydy fy stôl droed i.
Ble allech chi adeiladu teml fel yna i mi?
Ble dych chi am ei roi i mi i orffwys?
2Onid fi sydd wedi creu popeth sy'n bodoli?
Fi ddaeth â nhw i fod!”

—yr Arglwydd sy'n dweud hyn.
“Ac eto dyma pwy dw i'n cymryd sylw ohonyn nhw:
Y rhai tlawd sy'n teimlo'n annigonol
ac sy'n parchu fy neges.
3Ond am y bobl sy'n lladd ychen ac yna'n llofruddio rhywun,
yn aberthu oen ac yna'n torri gwddf ci,
yn cyflwyno offrwm o rawn ac yna'n aberthu gwaed moch,
yn llosgi arogldarth ac yna'n addoli eilun-dduwiau –
maen nhw wedi dewis mynd eu ffordd eu hunain
ac yn mwynhau gwneud y pethau ffiaidd yma –
4bydda i'n dewis eu cosbi nhw'n llym,
a throi eu hofnau gwaetha yn realiti.
Pan oeddwn i'n galw, wnaeth neb ateb;
pan oeddwn i'n siarad, doedd neb yn gwrando.
Roedden nhw'n gwneud pethau oeddwn i'n eu casáu,
ac yn dewis pethau oedd ddim yn fy mhlesio.”
5Gwrandwch ar neges yr Arglwydd,
chi sy'n parchu beth mae'n ei ddweud!
Mae eich pobl eich hunain yn eich casáu chi
a'ch cau chi allan am sefyll drosta i.
Maen nhw'n dweud yn wawdlyd:
“Boed i'r Arglwydd gael ei anrhydeddu,
i ni eich gweld chi'n cael eich gwneud yn hapus.”
Ond byddan nhw'n cael eu cywilyddio.
6Gwrandwch! Mae twrw yn dod o'r ddinas,
a sŵn yn dod o'r deml!
Sŵn yr Arglwydd yn talu'n ôl i'w elynion.
7All gwraig gael plentyn heb boenau geni?
All hi eni mab cyn i'r pyliau ddechrau?
8Na! Pwy glywodd am y fath beth?
Pwy welodd rywbeth felly'n digwydd?
Ydy gwlad yn geni plant mewn diwrnod?
Ydy cenedl yn dod i fod mewn moment?
Ond dyma Seion newydd ddechrau esgor
ac mae eisoes wedi cael ei phlant!
9“Fyddwn i'n gadael i'r dŵr dorri heb eni plentyn?”

—yr Arglwydd sy'n gofyn.
“Fyddwn i'n dechrau'r broses eni, ac yna'n ei rhwystro?”

—ie, dy Dduw sy'n gofyn.
10Byddwch yn llawen dros Jerwsalem
a dathlu gyda hi,
bawb ohonoch chi sy'n ei charu!
Ymunwch yn y dathlu,
chi fu'n galaru drosti –
11i chi gael sugno ei bronnau a chael eich bodloni,
cael blas wrth lepian ar hyfrydwch ei thethi.

12Dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud:

“Dw i'n rhoi iddi heddwch perffaith fel afon,
a bydd cyfoeth y cenhedloedd fel ffrwd yn gorlifo iddi.
Byddwch yn cael sugno ei bronnau a'ch cario fel babi,
ac yn chwarae ar ei gliniau fel plentyn bach.
13Bydda i'n eich cysuro chi fel mam yn cysuro ei phlentyn;
byddwch chi'n cael eich cysuro yn Jerwsalem.”
14Byddwch wrth eich bodd wrth weld hyn,
a bydd eich corff cyfan yn cael ei adnewyddu.
Bydd hi'n amlwg
fod nerth yr Arglwydd gyda'i weision;
ond ei fod wedi digio gyda'i elynion.
15Ydy, mae'r Arglwydd yn dod mewn tân
ac mae sŵn ei gerbydau fel corwynt.
Mae'n dod i ddangos ei fod yn ddig,
ac i geryddu gyda fflamau tân.
16Achos bydd yr Arglwydd yn barnu pawb
hefo tân a gyda'i gleddyf,
a bydd llawer yn cael eu lladd ganddo.

17“Mae hi ar ben ar bawb sy'n cysegru eu hunain a mynd trwy'r ddefod o ‛buro‛ eu hunain i ddilyn yr un yn y canol ac addoli yn y gerddi paganaidd, gan wledda ar gig moch a phethau ffiaidd eraill fel llygod,” meddai'r Arglwydd.

18“Dw i'n gwybod beth maen nhw'n ei wneud a'i feddwl. Dw i'n mynd i gasglu'r gwledydd i gyd, a phobl o bob iaith, iddyn nhw ddod a gweld fy ysblander i. 19Bydda i'n gosod arwydd yn eu canol nhw, ac anfon at y cenhedloedd rai o'r bobl fydd wedi llwyddo i ddianc: i Tarshish, at y Libiaid a'r Lydiaid (y rhai sy'n defnyddio bwa saeth); i Twbal, Groeg, a'r ynysoedd pell sydd heb glywed sôn amdana i na gweld fy ysblander i. Byddan nhw'n dweud wrth y cenhedloedd am fy ysblander i. 20A byddan nhw'n dod â'ch perthnasau o'r gwledydd i gyd yn offrwm i'r Arglwydd. Dod â nhw ar gefn ceffylau, mewn wagenni a throlïau, ar gefn mulod a chamelod, i Jerwsalem, fy mynydd sanctaidd”—meddai'r Arglwydd—“yn union fel mae pobl Israel yn dod ag offrwm o rawn i deml yr Arglwydd mewn llestr glân. 21A bydda i'n dewis rhai ohonyn nhw i fod yn offeiriaid ac yn Lefiaid,” meddai'r Arglwydd.

22“Fel y bydd y nefoedd newydd a'r ddaear newydd
dw i'n mynd i'w gwneud yn aros am byth o'm blaen i”

—meddai'r Arglwydd
“felly y bydd eich plant a'ch enw chi yn aros.
23O un Ŵyl y lleuad newydd i'r llall,
ac o un saboth i saboth arall,
bydd pawb yn dod i addoli o'm blaen i.”

—yr Arglwydd sy'n dweud hyn.
24“Byddan nhw'n mynd allan ac yn gweld
cyrff y rhai hynny oedd wedi gwrthryfela yn fy erbyn i:
Fydd y cynrhon ynddyn nhw ddim yn marw,
na'r tân sy'n eu llosgi nhw yn diffodd;
byddan nhw'n ffiaidd yng ngolwg pawb.”
Copyright information for CYM